Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
###
Y rol:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i benodi Darlithydd profiadol, dawnus ac ymroddedig mewn Economeg i ymuno ag Ardal Ddysgu Busnes a Thechnoleg Coleg Gwyr Abertawe.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i addysgu'n llwyddiannus ar raglen Lefel A Economeg ac i gyflwyno modiwlau Economeg ar gyrsiau eraill o fewn yr ardal ddysgu hyd at Lefel 5. (Mae'r gallu i addysgu'r cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru hefyd yn fanteisiol iawn.)
Llawn amser
Parhaol
25,371 - 49,934 y flwyddyn
Wedi'i leoli yng Ngorseinon
###
Cyfrifoldebau Allweddol:
Darparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel, monitro a thracio cynnydd dysgwyr yn effeithiol, gan greu amgylchedd cadarnhaol i alluogi pob dysgwr i gyflawni ei botensial llawn ar draws pob cwrs.
Cadw i fyny gyda datblygiadau byrddau arholi a sicrhau bod pob gofyniad allanol yn cael ei fodloni.
Gweithio gyda Rheolwr yr Ardal Ddysgu i osod targedau a monitro perfformiad o ran recriwtio, presenoldeb, cadw, cyrhaeddiad a chwblhau'n llwyddiannus.
Bod yn ymrwymedig i welliant parhaus, cyfrannu'n effeithiol at ddatblygu'r cwricwlwm, gweithgareddau allgyrsiol ac yn cynorthwyo gyda chynllunio a marchnata cyrsiau.
###
Amdanoch chi:
Meddu ar radd mewn Economeg neu radd berthnasol arall.
Meddu ar gymhwyster addysgu cydnabyddedig neu fod yn barod i weithio tuag at y cymhwyster hwn.
Dangos profiad llwyddiannus o addysgu Economeg Lefel A.
Meddu ar sgiliau trefnu rhagorol a gallu gweithio'n dda fel aelod o dim.
Parodrwydd i weithio'n hyblyg i ddiwallu anghenion y cwricwlwm a'r dysgwyr.
Buddion:
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024)
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2024)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Llawn Amser Cyfatebol Cyflog:
25,371 - 49,934 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.