Darlithydd Mewn Gwaith Arian

Swansea, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Darlithydd mewn Gwaith Arian



Amdanom ni:




Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.


Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rol:




Mae cyfle wedi codi i ymarferydd profiadol ymuno a'r Adran Celfyddydau Gweledol i gynnig dosbarthiadau gofaint arian hamddenol ar gampws bywiog Llwyn y Bryn (Coleg Gwyr Abertawe). Mae'r dosbarthiadau wedi cael eu cynnig ers tro ac maent yn boblogaidd iawn

17.53 -34.51 yr awr (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad)

Oriau: 4 awr yr wythnos

Campws Llwyn y Bryn, Abertawe


Cyfrifoldebau Allweddol:



Darparu dosbarthiadau gofaint arian i ddysgwyr sy'n oedolion.
Paratoi gwersi a deunyddiau eraill yn ol yr angen.


Hyrwyddo dosbarthiadau ar wefan y coleg / cyfryngau cymdeithasol

Bod yn gyfrifol am iechyd a diogelwch o fewn yr ystafell ddosbarth

Amdanoch chi:



Meddu ar radd berthnasol a chymhwyster addysgu neu fod yn barod i weithio tuag ato. Gallu dangos diddordeb angerddol yn y pwnc. Cyfathrebwr hyderus iawn ac unigolyn ymroddedig sy'n gallu ysbrydoli ac ennyn diddordeb dysgwyr o bob gallu. Gallu gweithio'n hyblyg i ateb anghenion dysgwyr.

Buddion:



Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28% ar gyfartaledd (2024) 2 ddiwrnod lles i staff Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda'ch cais?

Cliciwch ein tudalen canllaw.



Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.


Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.

Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: 25,371 - 49,934 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3327864
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Swansea, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned