Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon
Pwrpas cyffredinol y swydd
Y Rheolwr Gweithrediadau Cymwysiadau DDaT sydd a chyfrifoldeb cyffredinol am ddisgyblaeth Gweithredu Cymwysiadau TG o fewn teulu swyddi Gweithrediadau DDaT a swyddogaethau swydd sy'n gysylltiedig a dylunio, adeiladu, darparu a chynnal a chadw systemau cymwysiadau a meddalwedd y Cyngor. Byddant yn gweithio ar y cyd a disgyblaethau eraill i weithredu a chefnogi datrysiadau meddalwedd cost-effeithiol o ansawdd uchel i fodloni ystod hynod gymhleth o ofynion busnes ar draws y sefydliad. Byddant yn arwain ymchwil i dechnolegau newydd mewn integreiddio cymwysiadau, cynnal a chadw, monitro ac awtomeiddio i sicrhau bod y Cyngor yn barod ar gyfer newidiadau yn y dirwedd dechnoleg.
Gan adrodd i Reolwr Gweithrediadau TG DDaT, bydd y swydd hon yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni nodau strategol tim DDaT. Byddant yn darparu cyfeiriad a rheolaeth i'w tim ac yn arwain a chyfrannu at brosiectau.
Bydd deiliad y swydd yn rhoi arweiniad i dim o swyddogion i sicrhau bod y cyngor yn gwella perfformiad, gwytnwch a diogelwch ei systemau meddalwedd yn barhaus. Byddant yn sicrhau datblygiad eu timau i ddiwallu anghenion technoleg newidiol y sefydliad trwy fentora, asesu a gwelliant parhaus.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Anthony Williams
Rhif ffon:
07747118458
Cyfeiriad e-bost:
anthonywilliams2@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100503
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.