Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno a Gwasanaethau Plant Bro Morgannwg wrth i ni ehangu ein gweithlu i ateb galw cynyddol am ein gwasanaethau. Felly, rydym bellach yn chwilio am drydydd Rheolwr Ymarferydd gyda'r profiad a'r sgiliau perthnasol i oruchwylio'r broses o wneud penderfyniadau wrth y drws ffrynt, ynghyd a gweithrediad effeithiol gwasanaeth dyletswydd ac asesu.
Fel Rheolwr Ymarferydd yn y Tim Derbyn byddwch hefyd yn gyfrifol am gefnogi a goruchwylio Gweithwyr Cymdeithasol a Swyddogion Gofal Cymdeithasol, a byddwch yn cefnogi'r Rheolwr Tim i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei redeg yn effeithiol.
I fod yn llwyddiannus byddwch yn:
Gwybod sut olwg sydd ar arferion da.
Profiad o gyflawni canlyniadau ardderchog i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
gallu rheoli risg yn hyderus.
hyrwyddo partneriaethau cryf ar draws ystod o bartneriaid amlasiantaethol.
Yn gyfnewid am hyn, gallwch ddisgwyl bod yn rhan o Awdurdod sydd:
yn ddyfeisgar ac yn wydn.
yn ymrwymedig i wella ac yn awyddus i groesawu syniadau newydd.
ymrwymedig i allu cynnal llwyth gwaith y gellir ei reoli.
Mae'r buddion yn cynnwys:
Parcio rhad ac am ddim ac yn hygyrch.
Goruchwylio rheolaidd.
Ymrwymiad i ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder.
Gweithio hybrid.
cyfleoedd gwych ar gyfer datblygiad personol a gyrfaol.
Telir ychwanegiad blynyddol o 5,000 ar gyfer y swydd hon.
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr Dydd Llun i Ddydd Gwener
Prif Waith Swyddfa'r Dociau, Y Barri / Gweithio Hyblyg
Disgrifiad:
Darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr, yn unol a'r ddeddfwriaeth, y canllawiau, rheoliadau a'r safonau cenedlaethol perthnasol.
Gweithio fel rhan o dim, fel un o dri Rheolwr Ymarferwyr, i reoli, sgrinio a dyrannu atgyfeiriadau sy'n dod i mewn i'r Tim.
Cynnal trafodaethau strategaeth a gweithio gydag asiantaethau partner er mwyn sicrhau cefnogaeth effeithiol ac amserol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr.
Goruchwylio staff gwaith cymdeithasol yn eu hymarfer gwaith cymdeithasol uniongyrchol.
Dirprwyo ar ran Rheolwr y Tim yn eu habsenoldeb.
Amdanoch chi
Bydd angen:
Bod yn Weithiwr Cymdeithasol cymwys a chofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Profiad o waith cymdeithasol statudol gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Gwybodaeth am egwyddorion Deddf Plant 1989 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Profiad o ddefnyddio Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Y gallu i drafod yn effeithiol.
Ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth.
Profiad o oruchwylio neu fentora a chefnogi staff / myfyrwyr gwaith cymdeithasol.
Job Reference: SS00874
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.