This is a bilingual advert - please scroll down for English version Cydlynydd Ysgolion - Gogledd Orllewin Cymru
Rhaid i chi fod yn byw yng Ngogledd neu Orllewin Cymru
Un swydd - 17.5 awr (sy'n cyfateb i 2.5 diwrnod). Parhaol. (nodwch fod y cyflog a ddangosir yn pro rata)
Gweithio gartref, gyda'r angen i deithio ar adegau.
Mae'r gallu i gynnal sgwrs yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddai'n ddymunol pe gallai'r ymgeisydd llwyddiannus ateb gohebiaeth syml yn Gymraeg.
Hoffech chi roi hwb i'r hyn mae'r NSPCC yn ei gynnig i ysgolion? Yn 2021, cyhoeddodd yr NSPCC strategaeth 10 mlynedd newydd i gael yr effaith fwyaf bosibl i roi diwedd ar esgeuluso a cham-drin plant. Mae ein timau Gwasanaethau Lleol yn rhan hanfodol o'r ffordd y bydd tri phrif nod strategol yr NSPCC yn cael eu cyflawni:
Bod pawb yn chwarae eu rhan i atal cam-drin plant.
Bod pob plentyn yn ddiogel ar-lein.
Bod plant yn teimlo'n ddiogel a bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu cefnogi.
Mae Gwasanaethau Lleol yn dwyn ynghyd ein gwaith mewn ysgolion, ymgyrchoedd lleol, a'n gwasanaethau uniongyrchol ar draws 9 rhanbarth a gwlad. Mae tim Gwasanaeth Ysgolion Cymru yn rhan annatod o'n cenhadaeth gan ei fod yn gyfrifol am ddarparu'r cynnig i ysgolion.
Oes gennych chi brofiad o ddarparu rhaglenni mewn lleoliad addysgol neu ddiogelu?
Oes gennych chi brofiad diweddar o ddilyn gweithdrefnau diogelu?
Oes gennych chi sgiliau datblygedig i reoli cysylltiadau a rhanddeiliaid?
Ydych chi wedi cael mwynhad o weithio gyda grwpiau amrywiol o bobl yn y gorffennol?
Oes gennych chi brofiad perthnasol o ran recriwtio, rheoli a goruchwylio gwirfoddolwyr?
Oes gennych chi brofiad o weithio tuag at ddangosyddion perfformiad allweddol/targedau penodol a'u cyflawni?
A fyddech chi'n gallu gweithio fel rhan o dim o bell?
Os felly, byddem yn falch petaech chi'n gwneud cais am swydd Cydlynydd Ysgolion. Gan adrodd i'r Rheolwr Ysgolion, bydd swydd y Cydlynydd Ysgolion yn cynnwys:
bod yr unig bwynt cyswllt ar gyfer pob ysgol gynradd yn yr ardal ddynodedig, gan gynnwys lleoliadau nad ydynt yn rhai prif ffrwd
cydlynu'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen Cofia ddweud. Cadwa'n ddiogel ar-lein
bod yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o gyflwyno gweithdai dan arweiniad gwirfoddolwyr
arwain a rheoli tim amrywiol o wirfoddolwyr
gweithio i osod targedau a dangosyddion perfformiad allweddol
bod yn gyfrifol am feithrin a chynnal cysylltiadau mewnol ac allanol
recriwtio, hyfforddi a chadw gwirfoddolwyr presennol a rhai newydd, gan ddarparu datblygiad parhaus
manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ac ar weithio mewn partneriaeth
bod yn hyderus wrth gynnal cyflwyniadau i randdeiliaid, fel awdurdodau lleol ac uwch arweinwyr ysgolion
cynrychioli Gwasanaethau Lleol a Gwasanaeth Ysgolion yr NSPCC yn y fforwm cyhoeddus
cyfrannu'n weithredol at brosiectau a ffrydiau gwaith mewnol
Fel aelod o'n tim, byddai ein gwerthoedd a'n hymddygiadau sefydliadol yn bwysig i chi. Rydym yn chwilio am rywun fydd yn canolbwyntio ar y plentyn, sydd a chred gref yn hawliau plant, ac sydd a dealltwriaeth ac ymrwymiad clir i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd ar fywyd ac ymarfer. Gwnewch gais drwy lenwi'r ffurflen gais lawn, a darparu datganiad ategol sy'n rhoi enghreifftiau clir o'ch profiad i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob pwynt ym manyleb y person. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch a Rhian Jones, (Rheolwr Gwasanaeth Ysgolion Cymru NSPCC) rhian.jones@nspcc.org.uk Schools Coordinator - North West Wales
Must live within North or West Wales
One post - 17.5 hours each (equivalent of 2.5 days). Permanent (note that the salary shown in pro rata)
Home based, travel required.
Welsh language: The ability to conduct a conversation in Welsh is essential for this post. It would be desirable if the successful candidate could also respond to basic correspondence in Welsh.
Would you like to drive forward NSPCC's schools offer? In 2021, the NSPCC announced a new 10+ year strategy to make the biggest impact we can to stop child abuse and neglect. Our Local Services teams are an essential part of how NSPCC's three main strategic goals will be delivered:
Everyone plays their part to prevent child abuse.
Every child is safe online.
Children feel safe, listened to and supported.
Local Services brings together our work in schools, local campaigning and our direct services across 9 regions and nations. The Schools Service Cymru/Wales team plays an integral part of our mission as it's responsible for delivering the schools offer.
Do you have experience of delivering programmes in an educational or safeguarding setting?
Have you recent experience of following safeguarding procedures?
Do you have well-developed stakeholder relationship management skills?
Have you enjoyed working with diverse groups of people?
Do you have relevant volunteer recruitment, management and supervision experience?
Have you experience of working towards and meeting set targets/KPIs?
Would you work well as part of a remote team?
If so, we would love you to apply for the Schools Coordinator position. Reporting to the Schools Manager, the Schools Coordinator role will:
be the single point of contact for all primary schools within the designated area, including non-mainstream settings
co-ordinate the delivery of the Speak out. Stay safe online programme
be responsible for overseeing the delivery of volunteer led workshops
leading and manage a diverse team of existing volunteers
work to set targets and KPIs
be responsible for building and maintaining internal and external relationships
recruit, train and retain new or existing volunteers providing ongoing development
maximise opportunities and partnership working
be confident in presenting to stakeholders, such as local authorities and senior school leaders
represent Local Services and NSPCC Schools Service in the public forum
be an active contributor to internal projects and workstreams
As a member of our team, our organisational values and behaviours would be important to you. We want someone who will take a child-centred approach, has a strong belief in the rights of children, and has a clear understanding and commitment to equality, diversity and inclusion in all aspects of life and practice. Please apply by filling out the full application form and a supporting statement that provides your experience with clear examples that demonstrate how you meet each point of the person specification. For further information please contact Rhian Jones (NSPCC Schools Service Manager Wales) at rhian.jones@nspcc.org.uk
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.