Mae'r Ffrindiau Bach Tegryn yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd i blant rhwng 2-4 mlwydd oed hyd at oed ysgol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Caiff pob plentyn gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n hybu pob agwedd o'i ddatblygiad. Mae'r Cylch wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn cael ei reoli gan is gwmni Mudiad Meithrin, sef Meithrinfeydd Cymru Cyf.
Bydd disgwyl i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais ar gyfer y swydd. Ni dderbynnir CV yn lle ffurflen gais. Bydd disgwyl i'r ymgeiswyr nodi sut y maent yn ateb y gofynion hanfodol, a dymunol os yn berthnasol, fel y nodir yn y fanyleb person.
Mwy am Mudiad Meithrin
: I ddarganfod mwy o fanylion am Mudiad Meithrin, ewch i'n gwefan , dilynwch ni ar 'Twitter' (@MudiadMeithrin) neu ewch i'n tudalen 'facebook'.
Am fwy o wybodaeth ar sut i wneud cais, ewch i www.meithrin.cymru/swyddi
Mae'r gallu i siarad a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Job Types: Part-time, Fixed term contract
Contract length: 10 months
Pay: 12.41 per hour
Expected hours: 11 - 12 per week
Benefits:
On-site parking
Work Location: In person
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.