Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y Rol:
Mae adran Celfyddydau Gweledol egniol Campws Llwyn y Bryn yn chwilio am flodeuwr profiadol i ddarparu cyrsiau rhan-amser i oedolion.
Dyma gyfle gwych i rannu eich arbenigedd, sbarduno creadigrwydd a helpu eraill i ddatblygu eu sgiliau ym maes blodeuwriaeth.
Tal fesul awr
3 awr yr wythnos (prynhawniau Gwener)
Cyfnod penodol am 6 mis
17.53 - 34.51 yr awr
Uplands, Abertawe
Cyfrifoldebau Allweddol:
Cynllunio a pharatoi cyrsiau byr i'w cyflwyno i oedolion
Gweithio'n agos gyda'r Arweinwyr Cwricwlwm i sicrhau bod prosesau ansawdd yn cael eu dilyn
Sicrhau bod strategaethau a deunyddiau addysgu a dysgu ar gael i ddiwallu anghenion amrywiol y dysgwyr
Amdanoch chi:
Yn gallu creu amrywiaeth o arddangosfeydd a threfniadau blodau, gan gynnwys torchau, tuswau, tyllau botwm a darnau canol
Yn gallu gweithio gyda blodau wedi'u torri a blodau artiffisial
Yn angerddol am weithio mewn modd cynaliadwy
Profiad o addysgu oedolion
Cymhwyster addysgu/hyfforddi, neu fod yn barod i weithio tuag at un
Buddion:
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2024)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.
Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: 25,371 - 49,934 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.